Adroddiad y Cynghorwyr Cenedlaethol i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - diweddariad mis Mehefin 2019

 

Pwrpas

Yn ei lythyr dyddiedig 18 Rhagfyr 2018 i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, gofynnodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, am ddiweddariadau o bryd i'w gilydd gan y Cynghorwyr Cenedlaethol i roi sicrwydd am gyflymder rhoi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ar waith.

Dyma'r ail ddiweddariad gan y Cynghorwyr Cenedlaethol ac mae'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mehefin 2019.

Noder bod yr is-benawdau o dan “Cynghorwyr Cenedlaethol” a “Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru” yn nodi pwy sy'n gyfrifol am y camau gweithredu a ddisgrifir yn yr adrannau perthnasol.

 

Cyflwyniad

Cynghorwyr Cenedlaethol:

Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn cydnabod bod hwn yn faes gwaith trawsbynciol sy'n gofyn am ymrwymiad o bob adran yn Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y sector cyhoeddus, sefydliadau llywodraeth y DU, y trydydd sector a phartneriaid perthnasol eraill.

 

Dangosyddion Cenedlaethol

 

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

 

Cyhoeddwyd crynodeb Llywodraeth Cymru o'r ymgynghoriad ar y Dangosyddion Cenedlaethol ar 21 Mehefin 2019. Gosodwyd y Ddogfen Dangosyddion Cenedlaethol a Thechnegol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a chafodd ei gyhoeddi ar ddiwedd mis Mehefin 2019.

 

Er nad oedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn argymell y dylid dileu unrhyw un o'r dangosyddion, gwnaed awgrymiadau ar gyfer gwella'r mesurau a'r ffynonellau data a nodwyd er mwyn adrodd yn erbyn y dangosyddion hyn.

 

Bydd Swyddogion Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgor yn cynnwys pob un o'r rhanddeiliaid a gyfrannodd yn ffurfiol at yr ymgynghoriad hwn, ynghyd â rhanddeiliaid sydd wedi mynegi diddordeb mewn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu'r Dangosyddion Cenedlaethol.  Nod y gweithgor hwn yw adolygu'r dangosyddion, y mesurau a'r ffynonellau data presennol gyda'r bwriad o ddatblygu a chytuno ar unrhyw ddiwygiadau y gall fod eu hangen. Bydd y dangosyddion terfynol sy'n deillio o'r gwaith adolygu yn parhau i gael eu defnyddio i adrodd yn erbyn y strategaeth bresennol a byddant yn llywio unrhyw strategaeth ddiwygiedig o 2021 ymlaen.

 

 

Cynghorwyr Cenedlaethol:

 

Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol o'r farn bod cyfres gynhwysfawr o ddangosyddion (gan gynnwys ar gyfer trais rhywiol) wedi'u cyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad. Roedd y ddogfen ymgynghori wedi'i llunio mor syml â phosibl heb ormod o derminoleg dechnegol er mwyn hwyluso dealltwriaeth ymhlith darpar ymgyngoreion.

 

 

Strategaethau Lleol

 

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

 

Ymgysylltodd Swyddogion Llywodraeth Cymru â chydgysylltwyr rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) am gynnwys a fformat eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2018/19. Mae'r rhain yn adroddiadau cynnydd ar y strategaethau lleol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018. Caiff pob adroddiad ei anfon ymlaen at y Cynghorwyr Cenedlaethol er mwyn iddynt wneud sylwadau.

 

 

Cynghorwyr Cenedlaethol:

Ysgrifennodd y Cynghorwyr Cenedlaethol at Fyrddau VAWDASV rhanbarthol fis Mai diwethaf ac maent wedi ysgrifennu at yr holl Fyrddau eto i ganfod pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud yn erbyn eu Cynlluniau Gweithredu eu hunain. Rydym yn bwriadu ystyried eu hymateb gyda'r nod o bennu arfer gorau yn y maes hwn.

 

Mae gwasanaethau proffesiynol o ansawdd uchel gan staff rheng flaen yn hanfodol er mwyn cyflawni'r nod cyffredinol o wella ymatebion y sector cyhoeddus i anghenion goroeswyr.

 

 

Canllawiau Statudol

 

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

 

Canllawiau Comisiynu Rhanbarthol

 

Cyhoeddwyd y Canllawiau Statudol ar gyfer comisiynu gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru ar 15 Mai 2019. 

 

Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol

Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn cynnwys chwe grŵp. Bydd pob proffesiwn o fewn y Gwasanaeth Cyhoeddus yn perthyn i un o'r grwpiau hyn ac amlinellir gofyniad hyfforddiant sylfaenol fesul grŵp gan gynnig maes llafur hyfforddiant cymesur.

 

Ym mis Mawrth 2019, roedd 158,500 o bobl yng Nghymru wedi cael hyfforddiant o dan y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol.  Bydd ffigurau wedi'u diweddaru (gan gynnwys 2018-19) ar gael yn yr wythnosau i ddod a chânt eu cynnwys yn yr adroddiad nesaf i'r Pwyllgor.

Mae cyfleoedd hyfforddi i bob grŵp yn y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar gael ledled Cymru yn ystod y flwyddyn.  Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys cwrs arbenigol wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a chwrs i reolwyr gwasanaethau ar gyfer grwpiau 4 a 5 yn y fframwaith (y rhai sydd ag arbenigedd ym maes VAWDASV e.e. cynghorwyr cam-drin domestig, cynghorwyr cam-drin rhywiol a gweithwyr lloches) a gweithdai rhanbarthol ar gyfer arweinwyr grŵp 6 (gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldebau comisiynu a chynllunio e.e. prif weithredwyr awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol).

 

Mae adroddiadau blynyddol y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol gan y rhan fwyaf o awdurdodau perthnasol wedi cael eu cyflwyno a chaiff dadansoddiad o hyfforddiant ei gynnal pan fydd pob adroddiad wedi dod i law.

 

Gofyn a Gweithredu

 

Mae sesiynau ymwybyddiaeth am y broses Gofyn a Gweithredu yn parhau i gael eu cyflwyno i staff awdurdodau perthnasol ar y pum safle mabwysiadwyr cynnar/peilot. Mae cyfarfodydd cynllunio a gweithredu wedi dechrau yn y gogledd ac mae hyfforddiant ‘Hyfforddi'r hyfforddwr’ wedi cael ei gwblhau gan 20 o weithwyr proffesiynol yn y canolbarth a'r gorllewin yn ystod y cyfnod.

 

Mae dadansoddiad cychwynnol o adroddiadau blynyddol y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn rhagweld y caiff 4,000 o weithwyr proffesiynol eu hyfforddi yn 2019-2020.

 

Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â phartneriaid allweddol ac arweinwyr ardaloedd peilot i adolygu'r ffordd y bydd cymorth trydydd sector yn parhau yn ystod cam nesaf y gwaith o gyflwyno Gofyn a Gweithredu.

 

Cynghorwyr Cenedlaethol

 

Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol o'r farn bod yr hyfforddiant yn gynhwysfawr ac wedi'u cyflwyno mewn haenau addas ar gyfer personél gwahanol yn unol â'u cyfraniad mewn sefyllfaoedd ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hefyd wedi'i deilwra i anghenion sefydliadau penodol. Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol o'r farn y byddai'n fuddiol mapio effaith yr hyfforddiant i asesu, er enghraifft, y cynnydd mewn achosion o adnabod yn gynnar neu'r gostyngiad mewn risg.  Mae'n bwysig sicrhau bod hyfforddiant i weithwyr proffesiynol, darparwyr gwasanaethau ac aelodau o'r cyhoedd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol i ddioddefwyr a goroeswyr. Awgrymir y gellid asesu effaith yr hyfforddiant wrth edrych ar y mesurau ar gyfer y Dangosyddion Cenedlaethol.

 

Iechyd

 

Cynghorwyr Cenedlaethol:

Gwnaeth y Cynghorwyr Cenedlaethol gyfarfod ag Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru ym mis Mai pan drafodwyd llwybrau atgyfeirio iechyd meddwl a rhestrau aros ar gyfer canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol.  Tynnodd y Cynghorwyr Cenedlaethol sylw hefyd at y ffaith nad yw data yn cael eu rhannu â darparwyr gwasanaethau eraill yn aml. Er enghraifft, gofynnir i ymwelwyr iechyd gwblhau asesiad trais domestig, ond nid yw'n hysbys p'un a yw'r asesiad hwn yn cael ei rannu neu hyd yn oed ei drosglwyddo i gronfa ddata genedlaethol.

 

Ymrwymodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol i nifer o gamau gweithredu dilynol yn y cyfarfod, gan gynnwys trefnu trafodaeth rhwng y Cynghorwyr Cenedlaethol a'r pedwar Cyfarwyddwr Cyffredinol; rhannu cynnig newydd ar gyfer canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol; rhannu'r cynnig ar gyfer Menter Gwella Ansawdd Straen Trawmatig Cymru Gyfan; hwyluso byrddau iechyd i gynnal sesiwn fframio ar niweidiau diwylliannol; trefnu cyfarfod â'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.

 

Addysg

 

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

 

Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â CBAC i drafod y posibilrwydd o gynnwys Her Mentora Cymheiriaid ynghylch Cydberthnasau Iach a Rhywioldeb o fewn Bagloriaeth Cymru.  Mae'r cam gweithredu hwn yn deillio o gyfarfod ar 30 Ebrill rhwng Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, a'r Cynghorwyr Cenedlaethol i drafod agweddau iechyd a lles ar y Cwricwlwm drafft i Gymru 2022.

 

Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am VAWDASV ac am Addysg yn cydweithio i gynllunio cyfres o ddigwyddiadau cyfathrebu gydag ysgolion, cymunedau a phobl ifanc i sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei darparu am ddatblygiad y cwricwlwm newydd.

 

Cynghorwyr Cenedlaethol:

Gwnaeth y Cynghorwyr Cenedlaethol gyfarfod â'r Gweinidog Addysg ar 30 Ebrill 2019 a chytunwyd ar nifer o gamau gweithredu y mae'r Gweinidog yn gweithredu arnynt. Bydd y Cynghorwyr Cenedlaethol yn parhau i ddarparu cyngor a chymorth ymarferol mewn perthynas â gwrthwynebiad posibl gan rieni i elfennau penodol o Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn benodol.

 

Mae gan y Cynghorwyr Cenedlaethol brofiad ymarferol o gyfryngu mewn ysgolion yn Birmingham lle mae protestiadau gan rieni yn erbyn y cwricwlwm ar hyn o bryd. Dull arall mae'r Cynghorwyr wedi'i gynnig yw gweithio gyda sefydliadau fel BAWSO a Henna Foundation er mwyn annog deialog gyda mamau am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE).

 

Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Trais ar sail Anrhydedd a Phriodasau dan Orfod

 

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

 

Cynhaliwyd cyfarfod o'r Grŵp Arwain Trais ar sail Anrhydedd a drefnwyd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a BAWSO ar 25 Ebrill. Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu aelodaeth y grŵp er mwyn sicrhau y caiff prif benderfynwyr eu cynrychioli. Caiff hyn ei ddilyn gan adolygiad o'r cynllun cyflenwi fel ei fod yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol. Mae'r grŵp wedi cyflawni cryn dipyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond mae angen adnewyddu'r cynllun cyflenwi bellach er mwyn symud ymlaen.

 

Cynghorwyr Cenedlaethol:

Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol wedi ystyried y ffordd mae rhwystrau o ran rhoi gwybod am y troseddau erchyll hyn wedi tynnu sylw at yr angen i godi ymwybyddiaeth ac ennyn ymddiriedaeth ymhlith grwpiau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Bydd Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael â llawer o'r materion hyn drwy waith ymgysylltu wedi'i dargedu â grwpiau amrywiol a'r hyfforddiant penodol sy'n cael ei ddarparu drwy'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar hyn o bryd.

Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn bwriadu ymweld â Chlinig Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod Cymru ac adolygu nifer yr atgyfeiriadau a geir. Caiff y canfyddiadau eu darparu yn Adroddiad Blynyddol 2019 y Cynghorwyr Cenedlaethol.

 

Model Ariannu Cynaliadwy

 

Cynghorwyr Cenedlaethol

 

Un o'r heriau allweddol ar gyfer 2019-20 o hyd yw datblygu a gweithredu dull ariannu cynaliadwy.  Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Swyddogion Llywodraeth Cymru i ymgymryd â gwaith sylweddol ar ddatblygu model ariannu hirdymor a chynaliadwy yn dilyn cyhoeddi'r Canllawiau Comisiynu Statudol ym mis Mai 2019. Ein nod yw y bydd y model hwn yn darparu'r sail ar gyfer dull ariannu i roi diogelwch ariannol hollbwysig a chynaliadwy i'n gwasanaethau arbenigol. Dyma'r rheswm pam yr ailsefydlodd y Cynghorwyr Cenedlaethol y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ariannu Cynaliadwy, a gyfarfu am y trydydd tro ym mis Ebrill 2019. Yr allbynnau allweddol o'r cyfarfod hwn yw dealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae ariannu cynaliadwy yn ei olygu a chytundeb i gyfarfod â chomisiynwyr i gysoni blaenoriaethau yn well.

 

Cytunwyd ar aelodaeth ar gyfer y grŵp hwn i sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn cymryd rhan yn llawn. Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol bellach yn gweithio i gynnwys comisiynwyr fel y gellir nodi gwaith comisiynu ar y cyd a ffrydiau ariannu newydd posibl.

 

Mynegodd aelodau o'r Grŵp Ariannu Cynaliadwy fod angen i'r Grant Cymorth Tai gefnogi pob math o VAWDASV, nid cam-drin domestig yn unig. Cynigiwyd y byddai cynrychiolaeth gan y Grŵp Ariannu Cynaliadwy ar y grŵp sy'n goruchwylio'r Grant Cymorth Tai. Mae'r Grŵp Ariannu Cynaliadwy hefyd wedi codi pryderon am y gwahaniaeth o ran arian i fenywod heb hawl i gael arian cyhoeddus; codwyd hyn fel cam gweithredu gydag Is-gadeirydd y Grŵp a'r Dirprwy Weinidog drwy ein cyfarfodydd rheolaidd.

 

 

Dyraniadau Ariannol

 

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

 

Mae grant refeniw VAWDASV yn parhau i gefnogi'r Partneriaethau Rhanbarthol i gynnig dull cydlynol o ddarparu gwasanaethau VAWDASV ledled Cymru.  Mae'r cymorth hwn yn cynnwys gwasanaethau Cynghorwr Annibynnol ar Drais Domestig. 

 

Mae'r arian wedi'i gyfeirio at gefnogi gwasanaethau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gwasanaethau trais rhywiol, llinell gymorth ar gyfer dioddefwyr gwryw VAWDASV, cymorth addysgol ataliol mewn ysgolion yng Nghymru yn ogystal â chefnogi swyddogaethau'r sefydliad mantell ar gyfer gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru.

 

Mae'r arian hefyd wedi'i gyfeirio at gefnogi partneriaethau rhanbarthol i ddatblygu gwasanaethau cyflawnwyr yn eu hardaloedd rhanbarthol.

 

Cynghorwyr Cenedlaethol

 

Mae arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi gwella ers iddo newid i fodel anghenion a seiliedig ar dystiolaeth. Y gobaith yw y bydd hyn yn gwella cynaliadwyedd y trydydd sector ac yn lleihau dibyniaeth y sector ar arian y llywodraeth.

 

Gweithio gyda chyflawnwyr

 

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

 

Cynhaliwyd digwyddiadau rhannu ymarfer yn y gogledd (Cyffordd Llandudno) ac yn y de ym mis Ebrill a Mai. Mae digwyddiadau yn parhau i gael ymateb da a denu niferoedd da. Roedd siaradwyr ar gyfer y cyfnod hwn yn cynrychioli Phoenix a Reprovide, Relate Cymru a'r rhaglen Dewis Newid, y Llwybr Anhwylder Personoliaeth Troseddwr a Data Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi cymorth a goruchwyliaeth ar gyfer astudiaeth ymchwil i aflonyddu gan Brifysgol Abertawe, sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â KESS II (Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth), sef rhan o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn dilyn yr adolygiad o Brosiect Drive (rhaglen sy'n canolbwyntio ar gyflawnwyr) ym Merthyr (wedi'i gomisiynu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, mae Swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyngor ar weithredu argymhellion yr adolygiad.

Mae canllawiau arfer da Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio gyda chyflawnwyr yn cael eu cwblhau a chânt eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Rhoddodd Pennaeth Polisi Cyflawnwyr gyflwyniad yn y ddwy gynhadledd flynyddol CAFCASS Cymru ym mis Mai, gan siarad am bwysigrwydd ymarfer diogel, effeithiol a seiliedig ar dystiolaeth gyda chyflawnwyr.

Mae Deddf VAWDASV wedi cael ei hadlewyrchu yn y glasbrint ar gyfer troseddau gan fenywod, a gyhoeddwyd ym mis Mai, a gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad llafar am hyn ar 21 Mai.

Darparwyd mewnbwn i Fwrdd VAWDASV Gogledd Cymru ym mis Ebrill a Bwrdd VAWDASV Dyfed-Powys ym mis Mai, yn cynghori ar waith tuag at amcan 3 o'r Strategaeth Genedlaethol: “Ffocws cynyddol ar ddal cyflawnwyr i gyfrif a darparu cyfleoedd i newid eu hymddygiad yn seiliedig ar ddiogelwch dioddefwyr.”

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi (HMPPS) yng Nghymru wedi cytuno i weithredu Safonau Gwasanaeth Cyflawnwyr VAWDASV Llywodraeth Cymru ar gyfer pob ymyriad sy'n ymwneud â VAWDASV nad yw wedi'i achredu.

Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu cyngor i'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddatblygu Gorchmynion Atal Cam-drin Domestig, gan ystyried anghenion Cymru yn benodol.

 

Cynghorwyr Cenedlaethol:

 

Mae gwaith ardderchog wedi cael ei wneud yn y maes hwn, a thrafododd y Cynghorwyr Cenedlaethol hyn gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ym mis Mai. Am fod angen arian ychwanegol ar gyfer y gwaith hwn ar hyn o bryd, mae opsiynau amrywiol ar gyfer arian wedi cael eu trafod gyda'r Dirprwy Weinidog. Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn cefnogi agenda'r polisi cyflawnwyr yn gryf ac yn gweld hyn fel arfer gorau, ac maent am dynnu sylw at y maes gwaith hwn ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr

 

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

 

Ers y diweddariad diwethaf, mae cydweithwyr o'r Rhaglen Ymchwil Fewnol wedi datblygu arolwg a ddaeth i ben ym mis Mehefin i ymgysylltu â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae'r arolwg hwn hefyd yn cynnwys yr opsiwn ar gyfer cymryd rhan mewn cyfweliadau manylach.

Darperir canfyddiadau interim o'r arolwg yn yr haf er mwyn ffurfio panel peilot.  Caiff hyn ei fonitro dros gyfnod o dri mis i ganfod p'un ai hwn yw'r dull orau a ph'un a yw lleisiau a phrofiadau goroeswyr wedi gwneud gwahaniaeth. Bydd hyn yn llywio'r adroddiad terfynol a fydd yn dylanwadu ar fframwaith cynaliadwy ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr.

Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn archwilio'r ffordd orau o ymgysylltu ag amrywiaeth eang o oroeswyr ar gyfer adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar wasanaethau ar sail llety.

 

Cynghorwyr Cenedlaethol:

 

Er mwyn sicrhau y caiff cynrychiolaeth eang o leisiau goroeswyr, o ran eu profiadau, yn cael eu casglu, mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn croesawu'r darn o waith drwy'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr. Mae arolwg wedi cael ei gynnal i nodi grwpiau penodol nad ydynt wedi'u cynrychioli ar hyn o bryd. Bydd yr arolwg hefyd yn cynnwys cyfweliadau manwl a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i feithrin mwy o ddealltwriaeth o angen. Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn parhau i weithio gyda fforymau goroeswyr presennol ac unigolion i lywio ein dadansoddiad a'n gwaith.

 

 

Byw Heb Ofn

 

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

 

Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael cymeradwyaeth i ymestyn contract llinell gymorth Byw Heb Ofn am flwyddyn.

 

Cynghorwyr Cenedlaethol:

 

Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn falch o nodi'r cynnydd yn nifer y dilynwyr newydd a'r drafodaeth ar-lein fywiog a'r adborth a gafwyd o ymgyrchoedd cyfathrebu Llywodraeth Cymru.  Lle y bo'n bosibl, mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn parhau i rannu negeseuon allweddol ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

 

Cyfathrebu

Swyddogion VAWDASV Llywodraeth Cymru:

Ymgyrchoedd

 

Parhaodd yr ymgyrch “Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn” a lansiwyd ym mis Ionawr 2019 drwy gydol y cyfnod adrodd hwn rhwng mis Ebrill a mis Mai gyda lansiad y cam ‘grwpiau Rheoli ac Amrywiol’. Roedd yr ymgyrch yn tynnu sylw at natur fradwrus a chronnol rheolaeth drwy orfodaeth yn ogystal â'i chynildeb.

Roedd y cam hwyrach hwn o'r ymgyrch yn adlewyrchu profiadau grwpiau amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a gan roi ffocws ar brofiadau penodol y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, grwpiau megis pobl hŷn, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, dynion a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Tynnodd yr ymgyrch sylw at y mathau penodol o ymddygiad rheolaethol a chamdriniol y mae goroeswyr o fewn y grwpiau hyn wedi'i ddisgrifio. Y nod hefyd oedd helpu pobl i adnabod bod yr ymddygiadau hyn yn amhriodol ac yn gamdriniol ac annog pobl a oedd yn profi neu'n dyst i ymddygiadau o'r fath i geisio cyngor a chymorth o'r llinell gymorth Byw Heb Ofn.

Yn ystod y cam hwn o'r ymgyrch crëwyd 22 o fideos digidol, a gafodd eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, rhannwyd dros 5000 o bosteri â rhanddeiliaid perthnasol a lleoliadau allweddol a bu rhyngweithio parhaus â grwpiau sy'n gweithio gyda'r gynulleidfa darged.

Mae canlyniadau interim ar gyfer yr ymgyrch ‘Nid cariad yw hyn: rheolaeth yw hyn’ yn dangos bod ffilmiau'r ymgyrch wedi cael eu gwylio mwy na 300,000 o weithiau ar sianeli digidol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, ac mae mwy na 30,000 o sesiynau wedi cael eu cofnodi ar wefan yr ymgyrch. Mae data dangosol cynnar o'r llinell gymorth Byw Heb Ofn a chan yr heddlu yn awgrymu bod yr ymgyrch yn cael effaith ar nifer y galwadau sy'n ymwneud â rheolaeth drwy orfodaeth i'r llinell gymorth a throseddau rheolaeth drwy orfodaeth y rhoddwyd gwybod amdanynt yng Nghymru. 

 

Nod gweithgarwch cyfathrebu cymunedol Llywodraeth Cymru yw ehangu a chryfhau cyrhaeddiad ein hymgyrchoedd sy'n cynnwys “Dyma Fi” a “Paid Cadw'n Dawel”.  Mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnwys yr ymgyrch ‘Dyma Fi’ yn ei hadnodd Agenda ar gyfer ysgolion cynradd. Pecyn adnoddau yw Agenda i'w ddefnyddio gan athrawon wrth drafod cydberthnasau iach mewn ysgolion. Mae'n cynnwys awgrymiadau am bynciau, taflenni gwaith a gweithgareddau i'w defnyddio. Mae ar gael i ysgolion uwchradd a chynradd.

Cynghorwyr Cenedlaethol:

 

Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol wedi ymgysylltu'n agos â thîm cyfathrebu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o wybodaeth a gwell gwybodaeth yn cael ei rhannu â'n dinasyddion. Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn cymeradwyo'r ymgyrch ddiweddar “Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn” sy'n canolbwyntio ar reolaeth drwy orfodaeth ac sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt. Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn gweithio gyda'r tîm cyfathrebu i wella'r negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi cyhoeddusrwydd i waith Llywodraeth Cymru, a pharhau i ymateb i straeon newyddion sy'n effeithio ar VAWDASV.

 

 

Casgliad

Cynghorwyr Cenedlaethol:

Bydd y Cynghorwyr Cenedlaethol yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allanol wrth gynllunio'r gynhadledd ‘cloriannu’ sydd wedi'i threfnu ar gyfer mis Tachwedd 2019 i gyd-fynd â chyfnod Diwrnod Rhuban Gwyn. Drwy waith y Cynghorwyr Cenedlaethol gyda'r sector arbenigol a siarad yn uniongyrchol â goroeswyr camdriniaeth, mae'r angen i ailsefydlu Panel Dysgu Cymru Gyfan wedi cael ei nodi. Roedd hwn yn ymrwymiad yn y Strategaeth Genedlaethol yn wreiddiol. Bydd y Panel hwn yn canolbwyntio ar wella ymatebion amlasiantaethol i achosion lle mae dioddefwr wedi nodi pryderon diogelu. Bydd y cyfarfod cychwynnol yn cynnwys goroeswyr pobl o gefndiroedd du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi profi cam-drin rhywiol.  Y gobaith yw y gellir rhoi newid systematig ar waith lle bo angen o fewn disgyblaeth amlasiantaethol ac ym mhob rhan o bolisïau Llywodraeth Cymru.

Disgwylir adroddiad blynyddol y Cynghorwyr Cenedlaethol yn hwyrach eleni. Bydd yn canolbwyntio ar y bylchau a'r camau gweithredu penodol sy'n ofynnol i sicrhau bod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a'r gwaith sy'n deillio ohoni yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru a bod taith y defnyddiwr gwasanaeth wedi gweld newid sylweddol er gwell.

Yng ngoleuni hynt y Bil Cam-drin Domestig drwy Ddau Dŷ'r Senedd, mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn cynnig y dylai cyfarfodydd rheolaidd gael eu cynnal yn ystod y chwarter nesaf gan y Cynghorwyr â Swyddogion perthnasol o Lywodraeth y DU, yn bennaf gyda'r Comisiynydd Cam-drin Domestig arfaethedig (pan fydd y swydd wedi'i llenwi). Rydym hefyd yn dymuno annog cydweithio a dysgu parhaus ymhlith swyddogion pedair Gweinyddiaeth y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) fel gwaddol o'n penodiad yn Gynghorwyr Cenedlaethol i Gymru.

Mehefin 2019